phonefacebookemail

Deuawdau Gan
Aled Edwards ac Eleri Owen Edwards

Aled and Eleri Edwards

Mae eu cryno ddisg “Dau Fel Ni” ar gael yn awr am £12.95 (yn cynnwys cludiant)

Dau Fel Ni

Mae Aled ac Eleri, y cantorion adnabyddus o Gilycwm – y par priod cyntaf i ennill Rhuban Glas yr un – yn rhyddhau cryno ddisg o ddeuawdau.

Maent wedi bod wrthi ers misoedd yn dewis ystod eang o ganeuon apelgar. Mae’n gasgliad o’r cyfarwydd a’r newydd, gan gynnwys trefniannau o alawon gwerin, emynau a chaneuon cyfoes. Yn ogystal, mae yna ambell berl clasurol yn wrthgyferbyniad llwyr i ysgafnder a hiwmor ambell gân.

Mae Aled ac Eleri yn canu’n gyson yng Nghymru a thu hwnt fel unawdwyr, ac wedi cael profiadau gwerthfawr o berfformio yn Ewrop, Gogledd America ac Awstralia. Ar y llaw arall, maent hefyd wedi cyfrannu’n helaeth o’i talentau i gefnogi elusennau ac achosion da lleol.

Gwahoddwyd Shân Cothi i ymuno, fel gwestai arbennig, ar un o’r caneuon. Yn ffrind annwyl, mae hi erbyn hyn wedi dychwelyd at ei gwreiddiau trwy ymgartrefu yn Nyffryn Tywi.

Bydd y Cryno Ddisg ar gael cyn y Nadolig mewn siopau Cymraeg ledled Cymru, yn ogystal a Cegin y Porthmyn, Canolfan Grefftau, Llanymddyfri, ac IgamOgam, Llandeilo.

Credit & Debit Cards accepted

Gwrando

Cynnwys Nodiadau

  1. O Dduw Ein Tad (Plaisir d’Amour)

    JPA Martini, RJ Davies. (Trefn. Meirion Wynn Jones)

    Hoff emyn tad Eleri, y diweddar Trebor.

  2. My Luve is like a Red, Red Rose

    Jeff Howard, Robert Burns.

    Cân hyfryd gyfoes i eiriau’r Albanwr o fardd.

  3. Rhamant Dau

    Michael J Lewis, Eluned Phillips. (Trefn. Jeff Howard)

    Geiriau y bardd liwgar o Genarth, a cherddoriaeth y cyfansoddwr ffilmiau o Los Angeles.

  4. Panis Angelicus

    Cezar Frank.

    “Bara Angylion Duw” - Cân gysegredig adnabyddus.

  5. Mae’n Wir

    Brian Hughes, W Rhys Nicholas.

    Carol Nadolig gan J Brian Hughes, athro canu Eleri.

  6. Ar Lan y Môr

    Tradd. (Trefn. Meirion Wynn Jones)

    Trefniant newydd a hudolus.

  7. The Spider and the Fly

    Seymour Smith, G Hubi Newcombe.

    Deuawd nodweddiadol o’r cyfnod Fictorianaidd.

  8. Soave sia il vento

    Cosi Fan Tutte - WA Mozart, La Ponte.

    Triawd operatig sy’n blethiad hyfryd o leisiau Aled ac Eleri, gyda’u ffrind annwyl Shân Cothi.

  9. O Llefara Addfwyn Iesu

    Robat Arwyn, William Williams.

    Cân gyfoes ar eiriau emyn enwog Pantycelyn, sydd a chysylltiad agos a Cilycwm.

  10. True Love

    Michael J Lewis, Eluned Phillips. (Trefn. Jeff Howard)

    Cân serch arall gan y ddau a gyfansoddodd Rhamant Dau.

  11. Dim Ond Ti (Only You)

    Vince Clark, Cyf. Tudur Dylan Jones. (Trefn. Jeff Howard)

    Cyfieithiad o’r gân ysgafn o’r wythdegau.

  12. Barcarolle

    “Les Contes d’Hoffmann” – Jacques Offenbach, Jules Barbier.

    “Nos o Sêr a Nos o Serch” – Alaw mwyaf adnabyddus yr opera.

  13. I’ll Walk Beside You

    Allan Murray, Edward Lockton. (Arr. David Jenkins)

    Deuawd poblogaidd o’r Ail Ryfel Byd.

  14. Cariad Cyntaf

    Tradd. (Trefn. Brian Hughes)

    Trefniant pwerus o’r alaw werin hyfryd.

  15. Dau Fel Ni

    Ruth Lloyd Owen. (Trefn. Jeff Howard)

    Deuawd ysgafn am y trafferthion tafodiaith rhwng de a gogledd, gan ein chwaer yng nghyfraith, Ruth.

Shân Cothi
Soprano Shân Cothi

Credits

  • Piano – Jeff Howard
  • Cello – Beatrice Newman
  • Fiola – Bernard J Kane
  • Ffidil 1 – Christiana Mauron
  • Ffidil 2 – Rachael Elliot
  • Stiwdio – Acapela
  • Peiriannydd Sain a Chymysgu – Hywel Wigley
  • Cynorthwydd Sain – Luca Gribaudo
  • Cyfarwyddwr Cerdd a Threfnydd – Jeff Howard
  • Cynhyrchwyr – Aled, Eleri, Jeff.
  • Ffotograffiaeth – Ceri Llwyd
  • Cynllun – Escape To Design
  • Cyhoeddusrwydd – LR-PR